Fel rhan o’r gwaith paratoi, bydd y trefnwyr yn cynnal taith gerdded dreial ym mis Hydref 2026 ac yn gwahodd 150 o gerddwyr i gymryd rhan.
Bydd y daith gerdded dreial yn helpu’r trefnwyr i benderfynu’r llwybr, y logisteg a threfniadau’r digwyddiad cyn i’r her gerdded boblogaidd ddychwelyd yn llawn y flwyddyn nesaf.
Mae Cyfres Heriau Caerffili wedi denu cannoedd o gyfranogwyr yn y gorffennol ac mae’n enwog am arddangos golygfeydd hardd y Fwrdeistref Sirol wrth annog pobl i fod yn egnïol a mwynhau’r awyr agored.
Bydd rhagor o fanylion am daith gerdded dreial fis Hydref, gan gynnwys sut i gofrestru, yn cael eu cyhoeddi yn ystod y misoedd nesaf. Rydyn ni’n annog cerddwyr sydd â diddordeb mewn cymryd rhan i gadw llygad ar sianeli’r Cyngor i gael rhagor o wybodaeth.
Caerffili – Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili
E-bost caerphillychallengeseries@caerphilly.gov.uk