Cwestiynau cyffredin

Mae atebion isod i rai Cwestiynau Cyffredin. Os oes gennych chi ragor o gwestiynau, cysylltwch â Brian Begg ar beggbj@caerphilly.gov.uk neu 07788 547350.

A oes wir angen map arna i?

OES, heb os ac oni bai mae angen map arnoch chi! Neu o leiaf mae’n rhaid bod un o’ch grŵp yn gallu darllen map!

Mae’r cwestiwn hwn yn cael ei ofyn bob blwyddyn er ein bod ni'n pwysleisio'r ffaith yn ein holl ohebiaeth bod angen map arnoch chi! Y map yw’r darn pwysicaf o git... Rydym yn darparu disgrifiadau llwybr a chardiau llwybr sy'n berthnasol i'ch map OS.

Mae gennym lungopïau o'r llwybr ar gael ar y bore, ond mae'r rhain at ddibenion cyfeirio yn unig ac ni fwriedir iddynt gael eu defnyddio fel y map y byddwch yn ei ddefnyddio i’ch llywio.

Nid oes gan y mapiau hyn yr un manylion â map OS cywir ac nid ydynt yn atal dŵr. Ni fyddwn yn darparu llungopïau o'r map llwybr yn 2015.

Eich cyfrifoldeb chi neu'ch grŵp chi yw dod â'r map OS perthnasol gyda chi! Os ydych chi ar daith gerdded dan arweiniad, bydd gan arweinydd eich taith gerdded fap ac yn gyfarwydd â'r llwybr.

Byddwn yn darparu ffeil KML ar gyfer eich dyfais GPS (os oes gennych un).

Rwy’n ystyried cymryd rhan yn un o’r heriau hirach – rwy’n teimlo’n ddigon ffit ond alla i ddim darllen map. Beth yw’ch cyngor chi?

2 opsiwn:

Yn gyntaf… dysgwch sut i ddarllen map. Edrychwch ar wefan yr arolwg Ordnans neu cysylltwch â Brian Begg, mae'n trefnu cyrsiau darllen mapiau.

Yn ail… ymuno ymlaen llaw â rhywun (ffrind, cydweithiwr) a all ddarllen map. Sicrhewch ei fod yn fodlon i aros gyda chi trwy gydol yr her.

A fydd rheolfeydd ar hyd y llwybr?

Fydd 90% o'r llwybr DDIM yn cael ei farcio.

Rhan o'r her yw gallu llywio'ch ffordd o amgylch y sir.

Mae adborth o flynyddoedd blaenorol wedi golygu ein bod bellach yn gosod rheolfeydd mewn ardaloedd problemus a chyffyrdd, h.y. cael pobl trwy ardaloedd trefol a phwyntiau anodd ar y llwybr.

Gofynnwn yn garedig i chi BEIDIO â disgwyl y bydd y llwybrau a ddilynwch wedi'u cynnal a'u cadw'n dda o’u dechrau i’w diwedd, gyda marciau ffordd perffaith a rhubanau lliw yn crogi o goed fel nad oes angen i chi edrych ar eich disgrifiad llwybr na’r map.

Pe byddem yn gwneud hynny, fyddai ddim yn her!

Alla i redeg ar hyd y llwybr?

Mae modd i chi redeg y ddwy her hirach (mae llwybrau'r Cerddwr 5 a 10 milltir yn deithiau Cerdded dan arweiniad)!

Os gwelwch yn dda, byddwch yn ymwybodol bod yr her wedi'i threfnu ar gyfer cerddwyr a rhedwyr hamddenol. Ni fydd y llwybr wedi'i farcio fel digwyddiad traws gwlad clwb. Bydd angen i chi lywio'n annibynnol o hyd ar eich pen eich hun. Yn yr un modd, fyddwn ni ddim yn amseru’r teithiau ychwaith.

Alla i ddod â’r ci?

Rydym yn croesawu cŵn... Cyn belled â'u bod o dan reolaeth bob amser! Cofiwch, mae rhai o’r llwybrau’n croesi caeau ffermwyr a fydd â gwartheg ac ati yn pori ynddynt.

Pam ydych chi’n gosod rheolfeydd ar hyd y llwybr?

I'ch cadw'n ddiogel!

O’u defnyddio, gallwn ddweud yn fras ble rydych chi ar y llwybr.

Gall ymgeiswyr roi’r gorau iddi mewn unrhyw reolfa os ydyn nhw'n teimlo eu bod wedi cael digon.

Gallwn drefnu mannau dŵr ac egni ar gyfer cystadleuwyr hefyd.

Fydd yna fannau dŵr /egni ar hyd y llwybrau?

Bydd staff ym mhob rheolfa gyda dŵr a flapjacs ac ati (neu beth bynnag arall y gallwn ni gael gan noddwyr). Mae angen i chi ddod â bwyd a dŵr am y dydd gyda chi. Golyga’r rheolfeydd y gallwch gario potel lai o ddŵr a'i hail-lenwi ar hyd y ffordd.

Mae’n bosibl na fydd y daith gerdded dan arweiniad y Cerddwyr (8-10 milltir) yn pasio unrhyw un o'r rheolfeydd felly byddai’n rhaid i chi gario bwyd a dŵr.

Yn yr wybodaeth am yr her, rydych yn crybwyll amseroedd penodol yn y rheolfeydd. Beth yw ystyr hyn?

Er mwyn sicrhau diogelwch herwyr, gwirfoddolwyr a staff, mae'n rhaid i ni osod cyfyngiadau amser. Rydym yn awyddus i'r holl ymgeiswyr ddod i ben erbyn 6.30pm fan bellaf.

Fe wnaethon ni osod yr amseroedd penodol trwy weithio tuag yn ôl o 6.30pm, gan ystyried y pellter rhwng y rheolfeydd ac amcangyfrif pa mor hir y dylai gymryd i’w gerdded (yn araf).

Yna rydyn ni'n pennu amser penodol ar gyfer pob rheolfa, sy'n golygu os na fyddwch chi'n cyrraedd y rheolfa dan sylw erbyn amser penodol, gofynnir i chi adael gan na fyddwch chi'n gallu gorffen y daith erbyn 6.30pm.

(Cewch eich cludo yn ôl i'r man cychwyn/gorffen). Mae'r amseroedd penodol hyn yn hael iawn; er enghraifft yn 2014, yr amser penodol ar gyfer rheolfa 1 ym Mharc Cwm Darren oedd 11.30am ar gyfer y rhai ar yr her 22 milltir a ddechreuwyd rhwng 7.00am a 7.30am. Rhoddodd hyn 4 awr i ymgeiswyr gerdded 8 km – mwy na digon o amser!

Beth os dwi’n cael anhawster i gyrraedd rheolfa benodol mewn pryd ac yn gwrthod gadael yr her?

Does neb yn hoffi rhoi'r gorau i her pan fyddant yn mynd ati i’w gwblhau.

Rydym yn deall bod pobl yn awyddus i orffen a pha mor siomedig ydyn nhw os nad ydyn nhw'n cyrraedd y diwedd. Fodd bynnag, pan fyddwch chi'n cofrestru ar gyfer yr her, rydych chi'n cytuno i gadw at reolau'r her.

Os ydych chi’n gwrthod i roi'r gorau iddi, byddwch yn tarfu ar yr her gyfan ac yn peryglu'ch hun, gwirfoddolwyr a staff. Fel oedolyn, rydych chi'n gyfrifol amdanoch chi'ch hun a gallwch ddewis anwybyddu ein cyngor.

Fodd bynnag, os dewiswch chi anwybyddu ein cyngor, rydych chi'n cymryd cyfrifoldeb llawn am eich gweithredoedd a chanlyniadau posibl hynny, h.y. mynd ar goll, ac i wneud pethau'n waeth, efallai y byddwch chi'n colli allan ar y bwyd fydd ar gael ar ôl yr her. Bydd yr ysgol ar gau a bydd eich car wedi cael ei gloi i mewn.

Cofiwch, rydyn ni'n cynnwys yr amseroedd penodol hyn gan ein bod yn ystyriol o’n holl herwyr a’n gwirfoddolwyr.

A oes toiledau ar hyd y ffordd?

Nid oes toiledau ar hyd y llwybrau. Wrth gynllunio ein llwybr, rydym yn edrych am y llwybr gorau o ran cefn gwlad, tirwedd a golygfeydd. Nid ydym yn ystyried argaeledd toiled.

Wedi dweud hynny, dros y flwyddyn ddiwethaf, mae ein holl lwybrau wedi cynnwys toiledau o ryw fath, h.y. tafarndai lleol, canolfannau ymwelwyr parc gwledig, llwyni ac ati.