Yn dilyn digwyddiad llwyddiannus Forge 2019 (a 2020 a gollwyd oherwydd COVID-19), mae’r her yn parhau yng nghyffiniau syfrdanol Cwm Rhymney Uchaf gyda’i thirwedd heriol a’i golygfeydd godidog.
Dechrau a diwedd YR her eleni yw Ysgol Idris Davies 3-18 (Ysgol Uwchradd Rhymney gynt)
Cyfeiriad llawn: Ysgol Idris Davies 3-18, Abertysswg Road, Abertyswg, Tredegar NP22 5XF
YR UNION LWYBRAU I’W CADARNHAU
Dyma’r llwybrau a gynlluniwyd ar gyfer cyfres heriau 2021, a gallant newid. Bydd y llwybrau terfynol yn cael eu cadarnhau yn eich pecyn mynediad wythnos cyn yr her. Os ydych chi’n bwriadu eu cerdded cyn hynny, nodwch y gallai rhannau o’r llwybrau fod wedi gordyfu/ar gau ond na phryderwch, byddant i gyd ar agor erbyn yr 2 Mai.
(Her hunan-arweiniol a Thaith Gerdded Dan Arweiniad)
Cerdded, loncian neu redeg
Anghenfil o lwybr …… Yr hiraf yn hanes Cyfres Heriau Caerffili …. Bydd y llwybr 22 milltir hunan-arweiniol yn eich tywys trwy gymoedd ysblennydd, coetir, tir fferm, copaon bryniau ac ar hyd lan afon. Os bydd y tywydd yn caniatáu; cewch olygfeydd gwych ar draws Y Fwrdeistref Sirol tuag at Fannau Brycheiniog, dros Fae Caerdydd, Sianel Bryste, Gwlad yr Haf a Gogledd Dyfnaint.
Yn dilyn ymlaen o’r llynedd: Bellach, mae gennym nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer taith gerdded dan arweiniad o’r pellter hwn, h.y. yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n gallu cyflawni’r pellter heb ffwdan, ond na allant ddarllen map!
NODER: anfantais taith gerdded dan arweiniad yw y bydd disgwyl i chi gerdded ar gyflymder y grŵp.
(Her hunan-arweiniol a Thaith Gerdded Dan Arweiniad)
Cerdded, loncian neu redeg
14 milltir o dir anodd.
Yn dilyn ymlaen o’r llynedd: Bellach, mae gennym nifer gyfyngedig o leoedd ar gael ar gyfer taith gerdded dan arweiniad o’r pellter hwn, h.y. yn ddelfrydol ar gyfer pobl sy’n gallu cyflawni’r pellter heb ffwdan, ond na allant ddarllen map!
NODER: anfantais taith gerdded dan arweiniad yw y bydd disgwyl i chi gerdded ar gyflymder y grŵp.
(Taith gerdded dan arweiniad) (llwybr i’w gadarnhau)
Taith Gerdded dan Arweiniad.
Os nad ydych chi’n hyderus yn darllen map ac eisiau herio’ch hun heb fynd ar goll, yna taith gerdded Cerddwyr Cymru yw’r un i chi. Mwynhewch olygfeydd hyfryd yr ardal gydag un o arweinwyr teithiau cerdded profiadol Cerddwyr Cymru.
O.N. peidiwch â gadael i lwybr llai o bellter eich twyllo … bydd y daith hon yn dal i’ch herio ac yn cynnwys bryniau, mwd a thir anwastad yn union fel y 2 her hirach.
(Taith gerdded dan arweiniad)
Os byddai’n well gennych gerdded dros lai o fryniau, yna efallai mai taith gerdded fyrrach, mwy gwastad 1 a 5 milltir dan arweiniad yw’r union beth i chi. Codir tâl o £2 am daith ‘Beth am Gerdded Cymru’ (mae’r holl elw’n mynd at elusen y Maer). Gallwch gofrestru ymlaen llaw neu ar y diwrnod. Ymunwch â ni ar 2 Mai am 10.30am, cofrestru a byddwch yn barod i gerdded erbyn 11am.
Caiff union amserau cychwyn y teithiau eu cadarnhau gyda’ch pecyn gwybodaeth. Dyma frasamcan isod i chi:
Darllenwch y telerau ac amodau mynediad.
Maent yn egluro’n glir holl fanylion y digwyddiad, h.y. sut i gofrestru, diogelwch y Gyfres Heriau, gorfod gadael y Gyfres Heriau ac ati ac fe atebir y mwyafrif o’r cwestiynau fydd gennych am y digwyddiad yn y ddogfen isod.