Gallwch gofrestru 01/09/2023
Dim ond ar ein tudalen gofrestru ‘Fabian 4’ y gellir cofrestru ar gyfer Cyfres Heriau Caerffili
Ffioedd mynediad
Rhaid i bob ymgeisydd o dan 18 oed fod yn ddigon ffit i gyflawni’r her ynghyd ag oedolyn cyfrifol y mae ei enw wedi’i nodi. Rhaid i’r oedolyn sydd gyda hwy allu darllen map a llywio.
Cofiwch ddarllen yr holl wybodaeth am yr her a’r telerau ac amodau mynediad cyn cofrestru.
Os oes gennych unrhyw gwestiynau penodol ynglŷn â’r Her, ffoniwch Brian Begg ar 07788547350 neu anfon e-bost i beggbj@caerphilly.gov.uk
Derbynnir ceisiadau gan dimau a gellir eu harchebu gyda’i gilydd ar ein tudalen archebu ar-lein
Gellir cofrestru mwy nag un ymgeisydd ar-lein, ond mae angen manylion unigol ar gyfer pob ymgeisydd, h.y. cyfeiriad, manylion cyswllt, cyswllt brys ac ati.
Nid yw codi arian yn gyfyngedig i un elusen. Rhaid i unigolion a thimau sy’n dymuno codi arian ar gyfer elusen ddynodedig wneud hynny ar y cyd â’r elusen o’u dewis.
Edrychwch ar grysau-t diwethaf 2023 ‘Saphire Blue’ Cyfres Heriau Caerffili. Dyma’r math o grysau-t rydyn ni’n eu cynhyrchu ar gyfer yr her. Bydd y logo a’r lliw (TBC) yn wahanol ar gyfer y Baedd Gwyllt… Cofiwch eu cynnwys yn eich archeb wrth gofrestru ar gyfer yr her (mae modd eu harchebu ymlaen llaw am £ 10).
Darllenwch y telerau ac amodau mynediad.
Maent yn egluro’n glir holl fanylion y digwyddiad, h.y. sut i gofrestru, diogelwch y Gyfres Heriau, gorfod gadael y Gyfres Heriau ac ati ac fe atebir y mwyafrif o’r cwestiynau fydd gennych am y digwyddiad yn y ddogfen isod.