BAEDD GWYLLT 2024
Eleni, mae Gwasanaeth Cefn Gwlad a Thirwedd Cyngor Bwrdeistref Sirol Caerffili, ar y cyd â Grŵp Antur Caerffili, Cerddwyr Caerffili, Cerddwyr Islwyn a phartneriaid eraill unwaith eto yn cynnig HER A HANNER i gerddwyr a rhedwyr o bob gallu.
Fel sy’n arferol… bydd llwybrau Cyfres Heriau Caerffili yn addas i bob lefel ffitrwydd a gallu.
Bydd yna her sy’n addas i chi!
Herio opsiynau
(mae’r llwybrau wrthi’n cael eu cynllunio / cwblhau, byddwn yn cyhoeddi union bellteroedd y llwybrau maes o law)
Yn y cyfamser, dyma’r llwybrau:
- Llwybr 1-5 milltir (taith gerdded dan arweiniad) * Cofrestru ar y diwrnod
- Llwybr 8-11 milltir (taith gerdded dan arweiniad)
- Llwybr 15 milltir (her hunan-arweiniol a thaith gerdded dan arweiniad)
- Llwybr 22 milltir (her hunan-arweiniol a thaith gerdded dan arweiniad)
Nodweddion pwysig
Ar gyfer llwybrau hirach:
- Byddwch yn barod i gerdded yng nghefn gwlad. Bydd y llwybrau hyn yn mynd â chi ar draws caeau, trwy goedwigoedd ac i fyny bryniau mawr iawn… o ystyried y tywydd rydyn ni wedi’i gael am y 3 blynedd diwethaf… bydd hi’n wlyb ac yn fwdlyd iawn!
- NID OES MARCIAU AR HYD Y LLWYBRAU… Rhaid i chi allu darllen map neu fod gyda rhywun sy’n gallu!
- I’r rheini na allant ddarllen map, mae teithiau cerdded dan arweiniad ar gael ar gyfer niferoedd cyfyngedig… er y bydd yn rhaid i chi gerdded ar gyflymder y grŵp.
- Mae’r holl lwybrau yn heriau ANODD sy’n cynnwys esgyniadau a disgyniadau ar dir anodd (heblaw am y llwybr 1-5… mae hwnnw ar hyd camlas
- Isafswm oedran yw 12; rhaid i bob ymgeisydd dan 18 oed fod yn ddigon ffit i gyflawni’r her a bod gydag oedolyn cyfrifol.
- Croesewir cŵn ond rhaid iddynt fod o dan reolaeth bob amser a bod yn ddigon ffit i gyflawni’r her.
- Mae’r llwybrau o dan gyfyngiadau amser h.y. mae’n rhaid i chi adael yr her os nad ydych yn llwyddo i gyrraedd pob rheolfa o fewn amser penodol
- Gallwch gofrestru o 1 Hydref ymlaen
- Ffi cofrestru: £12
- Ffi cofrestru cynnar cyn 7 Ionawr 2022: £10
- Gostyngiad o £2 ychwanegol i ymgeiswyr 18 oed ac iau
- Mae dŵr ar gael ym mhob rheolfa
- Ni ellir cofrestru ar y diwrnod
- Dyddiad cau ar gyfer cofrestru yw dydd Mercher Mai 1 2024
Y llwybr 1-5 milltir:
- Croesewir pobl o bob oed
- Ffi mynediad: £2
- Cofrestru am ddim ar y diwrnod